WordPress.org

Cymraeg

WordPress 5.0

Mae WordPress 5.0 nawr ar gael!

Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd…

Mae thema newydd Twenty Nineteen wedi ei greu i ddefnyddio’r blociau newydd. Hefyd, mae nifer o ategion sy’n ymestyn y dull blociau i’w cael yn adran Ategion gwefan WordPress.

Er mwyn cadw defnyddwyr profiadol yn hapus mae modd defnyddio’r Classic Editor yn lle Golygydd Gutenberg, y golygydd newydd. Rwyf hefyd wedi lleoleiddiad ategyn Disable Gutenberg, sy’n gwneud beth mae ei enw’n ei awgrymu ac yn honni cynnig mwy o nodweddion na’r Classic Editor.

Ffigyrau

I’r rhai sy’n hoff o ffigyrau, mae’r ffigyrau llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.9 Cymraeg fel â ganlyn:

Pecyn Ryddhau: 1,946 a Pecyn Iaith: 36,361. (Gan gofio fod yna wedi bod naw fersiwn o WP 4.9)

Ffigyrau blaenorol

4.8 973 a 13,351.

4.6 521 a 4,191

4.5 446 a 3,356

4.4 250 a 3,369

Mwynhewch a byddwch gynhyrchiol!

WordPress a’r GDPR

Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd!

Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd), dull o drin data personol (Offer>Allforio Data Personol, Dileu Data Personol) a rhai cywiriadau.

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd dudalen sy’n amlinellu’r newidiadau i’r rheolau diogelu data.

Ystadegau WordPress 4.6

Cynnydd arall yn nifer y defnyddwyr Cymraeg WordPress.

Bydd WordPress 4.7 yn cael ei lansio tua Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.6. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 521 o becynnau ryddhau a 4,191 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.6 yn 446 a 3,356, a WordPress 4.5 yn 250 a 3,369. Cynnydd arall… 🙂

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.6 heddiw yw  28,290,823 o becynnau ryddhau a 63,291,794 pecyn iaith o gymharu â 4.5 44,121,925/73,775,408.

Os oes gennych flog neu wefan yn seiliedig ar feddalwedd nad yw’n darparu amgylchedd Cymraeg ei hiaith, beth am symud i WordPress?

WordPress 4.6

Mae WordPress 4.6 yn cael ei ryddhau heddiw. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

 

Dyma sy’n newydd:

Diweddaru Llyfn

Peidiwch colli’ch lle, arhoswch ar yr un dudalen tra eich bod chi’n diweddaru, gosod, a dileu eich ategion a’ch themâu.

Ffontiau Cynhenid

Mae bwrdd gwaith WordPress nawr yn cymryd mantais o’r ffontiau sydd genych yn barod, fel ei fod yn llwytho’n gynt ac yn eich gwneud yn fwy cartrefol a pha bynnag ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Gwelliannau Golygu

Gwirydd Dolenni Mewnlin

Erioed wedi creu dolen i http://www.ycylch.com/wordpress_3_4_beta/wordpress/wordpress.org ar ddamwain? Nawr mae WordPress yn gwirio’n awtomatig i wneud yn siŵr nawn aethoch chi hynny.

Adfer Cynnwys

Wrth i chi deipio, mae WordPress yn cadw eich cynnwys i’r porwr. Mae adfer cynnwys wedi ei gadw’n haws byth gyda WordPress .4.6.

Awgrymiadau Adnoddau

Mae awgrymiadau adnoddau gynorthwyo porwyr i benderfynu pa adnoddau i’w hestyn a’i rhagbrosesu. Bydd WordPress 4.6 yn eu hychwanegu’n awtomatig i’ch steiliau a’ch sgriptiau gan wneud eich gwefan yn hyd yn oed yn fwy cyflym.

Ceisiadau Cadernid

Mae’r API HTTP yn ehangu defnydd y llyfrgell Request, gan wella cefnogaeth safonol HTTP ac ychwanegu penynnau sy’n sensitif i lythrennau bach a mawr, ceisiadau HTTP paralel a chefnogaeth ar gyfer Enwai Parth Rhyngwladol.

WP_Term_Query a WP_Post_Type

Mae dosbarth newydd WP_Term_Query yn ychwanegu hyblygrwydd i wybodaeth ymholiad termau tra bod gwrthrych WP_Post_Type yn gwneud rhyngweithiad gyda mathau post yn fwy rhagfynegadwy.

Meta Registration API

Mae’r Meta Registration API wedi ei estyn i gynnal mathau, disgrifiadau a gwelededd REST API.

Cyfieithiadau ar Alw

Bydd WordPress yn gosod a defnyddio’r pecyn iaith ar gyfer eich ategion a themâu cyn gynted a’u bod yn barod o gymuned WordPress o gyfieithwyr.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae Masonry 3.3.2, imagesLoaded 3.2.0, MediaElement.js 2.22.0, TinyMCE 4.4.1, a Backbone.js 1.3.3 wedi eu cynnwys.

APIau’r Cyfaddaswr ar gyfer Gosod Dilysiad a Hysbysiadau

Mae gan y Gosodiadau API ar gyfer gorfodi cyfyngiadau dilysu. Hefyd, mae rheolyddion y Cyfaddaswr yn cynnal hysbysiadau sy’n cael eu defnyddio i ddangos gwallau dilysu yn lle cadw’n dawel.

Multisite, nawr yn gynt nag erioed

Mae ymholiadau gwefan cynhwysfawr a’r rhai wedi eu stori yn gwella eich profiad fel gweinyddwr rhwydwaith. Mae ychwanegu WP_Site_Query a WP_Network_Query yn gymorth i lunio ymholiadau uwch gyda llai o ymdrech.

Ystadegau WordPress 4.5

Bydd WordPress 4.6 yn cael ei lansio Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.5. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 446 o becynnau ryddhau a 3,356 pecyn iaith hyd heddiw.

Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.5 yn 250 a 3,369, felly mae rhywrai wedi bod yn brysur yn llwytho i lawr y pecyn creu/diweddaru gwefan.

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.5 heddiw yw 44,121,925 o becynnau ryddhau a 73,775,408 pecyn iaith.

Thema WordPress Amlieithog i Gymru

Mae Thema wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi unigolion i greu gwefannau amlieithog eu hunan, gyda’r gobaith o symleiddio cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg. Gall hefyd, drwy gael ei gyfieithu, alluogi amlieithrwydd tu hwnt i’r deuawd arferol o Gymraeg/Saesneg – a chael gwefannau Cymraeg/Basgeg, Cymraeg/Catalaneg, ac yn y blaen.

Mae themâu pwrpasol hefyd ar gael ar gyfer blog ac e-fasnachu

Ewch i wefan Thema.Cymru i ddysgu rhagor.

WordPress 4.5

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys.

Dyma sy’n newydd:

Gwelliannau Golygu

Dolennu Mewnlin

Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.

Fformatio Llwybrau Byr

Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a .


Gwelliannau Cyfaddasu

Rhagolwg Byw Ymatebol

Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.

Logos Penodol

Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.


O Dan y Clawr

Adnewyddu Dewisol

Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.

Newid Maint Delwedd Clyfar

Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.

Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau

Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script() newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.